Gel cawod

Gel cawod
Enghraifft o'r canlynolpersonal hygiene item Edit this on Wikidata
Mathdisposable product, detergent Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gel cawod

Sylwedd hylifol sebonllyd a ddefnyddir i olchi'r corff tra'n cael cawod yw gel cawod neu sebon cawod. Ceir geliau cawod ar y farchnad mewn amryw o liwiau ac aroglau.

Fel sylwedd sebonllyd, mae'n bosib i gel cawod stripio'r croen o'i haen wyneb o olewau naturiol, gan sychu'r croen a ffyrnigo cyflyrau croen sych, megis ecsema.[1] Gall geliau cawod persawrus hefyd achosi balanitis[2] a'r llindag mewn dynion.[3] Cynghorir i beidio â defnyddio geliau cawod tra'n dioddef cyflyrau meddygol megis cosi[4] a phlorod,[5] ac i beidio â'u defnyddio ar yr organau rhywiol tra'n dioddef llindag.[6]

  1.  Esmwythyddion: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Hydref, 2009.
  2.  Balanitis: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Hydref, 2009.
  3.  Y llindag, dynion: Achosion. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Hydref, 2009.
  4.  Cosi: Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Hydref, 2009.
  5.  Cyflyrau'r croen: Plorod. Directgov. Adalwyd ar 18 Hydref, 2009.
  6.  Y llindag, dynion: Triniaeth. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 18 Hydref, 2009.

Developed by StudentB